Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 8 Chwefror 2021
Amser:
09.30 -
10.36
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11195
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Mick Antoniw AS (Cadeirydd) Carwyn Jones AS Dai Lloyd AS David Melding AS |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Nia Moss (Ymchwilydd) Lucy Valsamidis (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod – yn unol â Rheol Sefydlog 34.19 – wedi penderfynu bod y cyhoedd yn cael eu heithrio o gyfarfod y Pwyllgor, er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3
2.1 SL(5)730 – Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
2.2 SL(5)733 – Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygio) a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad) (Cymru) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
3.1 SL(5)737 – Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.2 SL(5)731 – Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
3.3 SL(5)732 – Rheoliadau Lefelau Staff Nyrsio (Estyn Sefyllfaoedd) (Cymru) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
3.4 SL(5)738 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.5 SL(5)698 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 – trafodwyd yn flaenorol
4.1 SL(5)721 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2021
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
4.2 SL(5)724 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
5 Is-ddeddfwriaeth nad yw’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7
5.1 SL(5)734 – Cod Ymarfer a Chanllawiau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Trafododd y Pwyllgor y Cod Ymarfer ac roedd yn fodlon arno.
6 Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C
6.1 WS-30C(5)216 – Rheoliadau Bwyd a Diod (Diwygiadau Amrywiol sy'n Ymwneud â Chyfansoddiad, Gwybodaeth a Labelu Bwyd a Gwin) 2021
Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.
7 Papurau i'w nodi
7.1 Llythyr oddi wrth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: Craffu ar reoliadau Llywodraeth Cymru a chydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus – Rheol Sefydlog 21.3C(iv)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac, yn breifat, cytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf o ran cyhoeddi'r dogfennau asesu.
7.2 Llythyr oddi wrth Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a'i hymateb i argymhellion y Pwyllgor mewn perthynas â'r Bil.
8 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Amgylchedd – trafod yr adroddiad drafft
Ystyriodd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Amgylchedd, a chytunodd i gwblhau'r adroddiad y tu allan i'r Pwyllgor.
10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil Cam-drin Domestig – trafod y materion allweddol
Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar y Bil Cam-drin Domestig a chytunodd i ystyried ei adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.
11 Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru – trafod y materion allweddol
Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol mewn perthynas â'i ymchwiliad i Wneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru. Nododd y Pwyllgor y byddai'n cynnal sesiynau tystiolaeth gyda'r Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, a chyda Chomisiwn y Gyfraith yn ei gyfarfod nesaf.
12 Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig – papur briffio
Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Bil Marchnad Fewnol y DU.
13 Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 - y wybodaeth ddiweddaraf
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd.